|
GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
|
018 - Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd (Ymadael â’r UE) 2022 [Saesneg yn unig] Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 17 Hydref 2022 |
|
|
Sifftio |
|
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Amherthnasol |
|
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol drafft |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Amherthnasol |
|
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
|
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
|
Gweithdrefn graffu |
|
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
|
Gweithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
|
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
26 Hydref 2022 |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
1 Tachwedd 2022 |
|
Cefndir
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraffau 21(a) a (b) a 38(1) i (3) o o Atodlen 7 iddi.
Byddant hefyd yn cael eu gwneud gan y Trysorlys o dan adran 90(1)(b) o Ddeddf Cyllid 2019.
Crynodeb
Mae'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn ganolfan ryngwladol yn Fflorens ar gyfer astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol. Er nad yw’n un o sefydliadau’r UE, ymadawodd y Deyrnas Unedig â Chonfensiwn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn awtomatig pan adawodd yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd Llywodraeth y DU drafodaethau gyda’r Athrofa ynghylch y posibilrwydd o ymgysylltiad parhaus. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi datgan na fu’n bosibl dod i gytundeb ynghylch ymgysylltiad y DU yn y dyfodol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod cyfraith ddomestig yn adlewyrchu’r realiti ymarferol nad yw’r DU bellach yn cymryd rhan yng Nghonfensiwn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, a hynny drwy ddirymu cyfraith ddiangen yr UE a ddargedwir yn y maes hwn (yn amodol ar rai darpariaethau arbed a fydd yn berthnasol i tua 35 aelod o staff a gyflogir gan yr Athrofa y mae sefyllfa gyfreithiol y DU yn effeithio arnynt, gan ddarparu trwy hynny gyfnod addasu rhesymol i’r cyflogeion hynny).
Datganiad gan Lywodraeth Cymru
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 8 Tachwedd 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|
|